Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 19 Tachwedd 2020
Amser:
09.18 -
10.38
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6547
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Hefin David AS Suzy Davies AS |
Tystion: |
Becky Ricketts, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Joe Atkinson, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Cymru Jim Dickinson, WONKHE Jamie Insole, Undeb Prifysgolion a Cholegau |
Staff y Pwyllgor: |
Tanwen Summers (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Phil Boshier (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sian Gwenllian AS a Laura Jones AS, ac nid oedd dirprwyon.
2 Sesiwn dystiolaeth ar effaith Covid-19 ar Addysg Uwch a lles staff a myfyrwyr gyda chynrychiolwyr o’r sector addysg uwch
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru, yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) a WONKHE.
2.3 Cytunodd yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) i ddarparu gwybodaeth am lefelau recriwtio ar draws sefydliadau yng Nghymru, a dyfynnwyd ymchwil yn y dystiolaeth am yr effaith y mae'r pandemig yn ei chael ar staff addysg uwch o bob rhyw.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Effaith Covid-19 ar Addysg Uwch a llesiant staff a myfyrwyr gyda chynrychiolwyr o’r sector addysg uwch – trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn flaenorol.
6 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - trafod yr adroddiad drafft.
6.1 Gohiriwyd yr eitem hon. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am gyfarfod ychwanegol ddydd Llun 30 Tachwedd i ystyried yr adroddiad drafft ymhellach.